Newyddion S4C

Heddlu’r Met yn ‘gollwng ymchwiliad i gyhuddiadau o gam-drin rhyw’ yn erbyn Tywysog Andrew

The Independent 11/10/2021
CC

Mae adroddiadau’n awgrymu bod Heddlu’r Met wedi "gollwng ymchwiliad i gyhuddiadau o gam-drin rhyw" yn erbyn Tywysog Andrew.

Yn ôl The Independent, mae Heddlu’r Met wedi siarad gyda’r cyhuddwr Virgina Giuffre, sydd wedi dweud eu bod wedi penderfynu peidio gweithredu ymhellach ar ei honiadau.

Mae’r Tywysog yn wynebu achos cyfreithiol sifil yn yr UDA wedi i Ms Giuffre yn honni iddi gael ei gorfodi i gael rhyw gyda Thywysog Andrew pan oedd hi'n 17 oed.

Mae’r Dug wedi gwadu cael perthynas nag unrhyw gyfathrach rywiol gyda hi.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.