Pryder y gallai'r grefft o blygu perthi ddiflannu o’r tir
Pryder y gallai'r grefft o blygu perthi ddiflannu o’r tir
Gyda phrinder pobl ifanc yn ymddiddori yn y maes, mae pryder y gallai'r grefft o blygu perthi ddiflannu o’r tir.
I geisio rhoi hwb i’r traddodiad hynafol hwn yng Nghymru, fe gafodd cystadleuaeth Plygu Perthi Dyffryn Tywi ei chynnal am y tro cyntaf y penwythnos hwn.
Mae technegau plygu perthi yn amrywio o sir i sir, ond yr un alwad ym mhob ardal – mae angen mwy o bobl ifanc ymddiddori yn y maes a chynnal traddodiad.
Un sydd wedi dysgu’r grefft yw Osian Owen.
Dywedodd Osian wrth Newyddion S4C: “Sai’n gwybod am lot o bobl ifanc sy’n neud e. Rhan fwyaf o be fi di gweld yw pobl hŷn. Fi’n credu mae’n bwysig bod mwy o bobl ifanc yn cael eu dysgu am e.
“Mae crefft i fe, a hefyd mae rheswm i bywyd gwyllt a perthi eu hunan i atgyfnerthu a dyfu nol fel dyle fe.”
Gyda Llywodraeth Cymru bellach yn gwobrwyo ffermwyr yn ariannol am warchod yr amgylchedd, dyw rhai ddim yn credu bod y pwyslais yn y man cywir ar hyn o bryd.
Dywedodd Gwyn Williams: “Beth fi’n poeni am fwyaf, mae grants am bopeth ond s’dim grants am gadw cefn gwlad i fynd o ran cadw crefftiau i fynd. A dyle fe fod, mae’n bwysig.
"Gallwch chi gal dyn mewn a diggar yn fan hyn a torri popeth, wel ‘so hwnna’n grefft i fi o gwbl. Maen nhw’n rhoi grants rywbeth fel’na. Torri off a ffensio bob ochr. Y grant dyle fod fel ma’r dynion hyn yn gwneud heddi yw plygu parthie’n iawn. I natur beth sy’n fwya pwysig yw plygu perth.”