Cannoedd o honiadau am blismyn yn camymddwyn yn rhywiol yn y DU
11/10/2021
Mae cannoedd o honiadau am blismyn yn camymddwyn yn rhywiol wedi eu gwneud yn y Deyrnas Unedig rhwng 2016 a 2020.
Mewn cais rhyddid gwybodaeth, mae data gan 31 o luoedd yn dangos bod oleiaf 750 o gwynion wedi eu gwneud yn ystod y pum mlynedd.
Yn ôl Sky News, roedd rhan fwyaf yr honiadau yn erbyn dynion a nifer yn gwynion hanesyddol.
Daw hyn ar ôl i Ysgrifennydd Cartref y DU, Priti Patel gyhoeddi ymchwiliad annibynnol i “fethiannau systemig” ar ôl i lofruddiwr Sarah Everard, yr heddwas Wayne Couzens, barhau i gael ei gyflogi.
Darllenwch ragor yma.