Cwpan y Byd 2022: Cymru’n paratoi i herio Estonia
Bydd Cymru yn parhau gyda’i hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2022 nos Lun.
Fe fydd y crysau cochion yn mynd benben ag Estonia, gyda’r gic gyntaf yn Tallinn am 19:45.
Yn dilyn gêm gyfartal nos Wener yn erbyn y Weriniaeth Tsiec, mae gobeithion y tîm yn uchel wrth iddynt frwydro i sicrhau’r ail safle yn eu grŵp.
“Cwpan y byd yw’r targed,” dywedodd Aaron Ramsey, fydd yn gapten unwaith eto dros y tîm nos Lun tra bod Gareth Bale yn gwella o anaf.
Mae Ramsey’n dweud y byddai ei yrfa ryngwladol yn gyflawn petai’n llwyddo i gynrychioli Cymru mewn cwpan byd.
“Rydym wedi bod yn ddigon lwcus i brofi dwy Bencampwriaeth Ewropeaidd ac maen nhw wedi bod yn anhygoel.
“Byddai’n freuddwyd i dicio ffwrdd Cwpan y Byd. Mae ffordd hir i fynd, ond os allwn ni wneud hynny, byddai mewn ffordd yn gyflawn, bydde fe?”
Ar ôl sgorio dros ei wlad nos Wener, mae Ramsey yn edrych ymlaen at gael y cefnogwyr yn ôl unwaith eto.
Ond, mae’n cyfaddef bod gêm heriol o’u blaen nos Lun.
“Roedd e’n arbennig i gael y wal goch yno i chwarae o flaen nhw gyda'r perfformiad roedd ni’n dangos. Roedd o jysd yn gwych i fod yn flaen nhw.
“Fydd e’n gêm anodd yn erbyn Estonia. Ry’n i’n gweld hyna yn y gêm gyntaf yn erbyn nw. Felly, os ni’n chwarae’r ffordd odde ni yn [ddydd Gwener], fi’n meddwl ni’n gallu dod i ffwrdd o hwne gyda tri phwynt.”
Crwydro Talinn 🇪🇪
— Wales 🏴 (@Cymru) October 11, 2021
Final pre-match stroll in Estonia 🚶♂️🍁#ESTWAL | #TogetherStronger pic.twitter.com/lOKpDoxjUc
Dywedodd Robert Page ei fod yn siomedig na lwyddodd ei dîm i sgorio tair gôl yn erbyn y Weriniaeth Tsiec nos Wener.
Serch hynny, mae’n gobeithio y bydd crysau cochion yn cadw’r un safon wrth herio Estonia.
Dywedodd Page: “Rydym angen mynd amdani o’r funud cyntaf. Rydym angen dechrau da ac adeiladu ar hynny.
“Rydym wedi gosod y bar yn uchel yn erbyn y Weriniaeth Tsiec, a rŵan mae’n rhaid i ni barhau gyda’r safonau ymhob gêm.”