Newidiadau i restr goch teithio rhyngwladol yn dod i rym
Mae newidiadau wedi dod i rym i restr goch teithio rhyngwladol Cymru.
O ddydd Llun, dim ond saith o wledydd fydd yn goch, gyda 47 o wledydd wedi eu tynnu oddi ar y rhestr.
Yn parhau ar y rhestr goch mae Colombia, Gweriniaeth Dominicaidd, Ecwador, Haiti, Panama, Periw a Venezuela.
Fe gafodd y cyhoeddiad am y newid i reolau teithio Llowgr ei wneud gan Lywodraeth y DU ddydd Iau.
Yn dilyn hyn, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddant yn dilyn yr un rheolau â Lloegr, gan ddweud ei bod hi ddim yn "ymarferol i Gymru ddatblygu ei pholisi ei hun ar ffiniau".
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r newid i'r rheolau yn dod "gyda phryder".
Mewn datganiad yn gynharach wythnos diwethaf, fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan eu bod yn parhau i fod yn "bryderus am y risgiau sy'n gysylltiedig â theithio".