Newyddion S4C

Jonny Clayton yn ennill Grand Prix Dartiau'r Byd ar ôl trechu Gerwyn Price

Sky News 09/10/2021
Clayton

Os oedd un peth yn sicr ar ddechrau ffeinal Grand Prix Dartiau'r Byd nos Sadwrn, yna'r ffaith mai Cymro fyddai'n fuddugol ar ddiwedd yr ornest oedd hynny.

Ac wedi'r dartiau olaf lanio yn yr ornest rhwng Jonny Clayton a Gerwyn Price, Clayton oedd yn fuddugol, gan hawlio'r bencampwriaeth a gwobr o £100,000 ar ôl trechu Price 5-1.

Ar ôl y fuddugoliaeth ysgubol fe fydd Y Ffurat, fel mae Clayton yn cael ei adnabod, yn codi i fod ymysg y 10 chwaraewr gorau yn y byd.

Roedd wedi cael blwyddyn hynod o lwyddiannus yn barod ar ôl ennill dau dlws, ac roedd ei chwarae ar y noson yn adlewyrchu ei safon erbyn hyn - fe laniodd sgôr ar gyfartaledd o 94.44 am bob tri dart yr oedd wedi ei daflu yn erbyn Price.

Yn dilyn y fuddugoliaeth, dywedodd y Cymro o Sir Gaerfyrddin wrth Sky Sports fod y canlyniad yn un yr oedd wedi ei freuddwydio amdano.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Jonny Clayton/Twitter

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.