
Amser 'agor y giât' ar iechyd meddwl
‘Mae hi’n iawn i beidio bod yn iawn’ – dyma neges sy’n cael ei hamlygu ddydd Sul wrth i Ddiwrnod Iechyd Meddwl gael ei nodi ledled y byd.
Mae’r diwrnod yn un pwysig, yn ôl un sy’n gwirfoddoli gydag elusennau iechyd meddwl.
Mae Alaw Llwyd Owen yn gobeithio chwalu’r stigma o gwmpas iechyd meddwl, yn arbennig yng nghefn gwlad ac o fewn y diwydiant amaethyddol.
“Mae heriau amaethyddol yn ddiddiwedd. Da ni’n gyson o ddydd i ddydd yn wynebu heriau ac yn goroesi heriau hefyd," dywedodd wrth Newyddion S4C.
“Mae o’n un o’r diwydiannau mwyaf sy’n dioddef o hunanladdiad. Ella efo amaeth hefyd mae ‘na dueddiad o feddwl bo ti’n gorfod cael persona cryf, a bod amaeth yn dod efo ryw ddelwedd bo ti’n gorfod bod yn robust ac yn gryf a bo ti’n dangos bo ti’n iawn drwy’r adeg."
Mae Alaw yn gwirfoddoli gydag elusen y DPJ Foundation, elusen sy’n arbenigo mewn cynnig cymorth iechyd meddwl o fewn y sector amaethyddiaeth.
Ychwanegodd: “Mae DPJ yn gweithio’n galed ofnadwy i chwalu’r ddelwedd. Does ‘na ddim, dylia na ddim bod stigma. Ti’n siŵr o fod yn mynd o ffarm i ffarm arall lawr y ffordd a ma’ pawb yn delio hefo’r un math o bynciau a dwi’n meddwl - ‘da ni wedi arfar fatha cuddio tu ôl i’n ffermydd a’r iard ffarm, a chadw pethau o fewn clos y ffarm gymaint.
“Sgiwshwch y pun, ond dwi’n meddwl bod o rili yn amser i agor y giatia’ ‘na a rhannu ein problemau a’n meddyliau.”
Fe ddioddefodd Alaw, sy'n byw yn Ninbych, anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn 2018.
Er bod iechyd meddwl yn rywbeth y mae Alaw bob amser wedi ei ystyried, mae’n dweud bod y profiad wedi ei gwneud yn fwy ymwybodol ohono.
“Nes i yn sicr drwy y profiad ddod yn fwy ymwybodol o iechyd meddwl. Nath o danlinellu i fi y ffaith bod y corff a’r meddwl yn gysylltiedig a bod y ddau beth yn dylanwadu ar ei gilydd. Maen nhw’n mynd law yn llaw heb os nag oni bai."

Yn gynharach eleni hefyd, fe lansiodd Alaw lwyfan digidol Nerth Dy Ben – platfform sy’n annog a chodi ymwybyddiaeth am sgwrsio am iechyd meddwl yn agored.
“Nes i gychwyn gwirfoddoli achos o’n isho cyfrannu i godi ymwybyddiaeth ac i agor y sgwrs allan ac i warchod ein cymunedau gwledig yn lleol ac yn ehangach.
“Drwy ddod yn ymwybodol o’r effaith mae [iechyd meddwl] yn ei gael, ac yn enwedig iechyd meddwl gwael yn gael ar ein cymunedau ni, ac ar deulu a ffrindia, o’n i yn bendant isho cyfrannu wedyn drio i ysgwyddo’r baich hwnnw rywsut, ac i godi ymwybyddiaeth ac i helpu i chwalu’r stigma yna bod o’n iawn i ni siarad am y petha yma a bod o’n gyffredin ymhawb."