Plentyn dwy oed yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan gerbyd heddlu
Mae plentyn dwy oed yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad oedd yn cynnwys cerbyd heddlu brynhawn dydd Gwener.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am oddeutu 15:30 ar Ffordd Llannerch, Pen-y-Cae yn Wrecsam, pan darodd y cerbyd y plentyn dwy oed.
Roedd y Gwasanaeth Ambiwlans hefyd yn bresennol yn y digwyddiad, gyda'r plentyn wedi ei gludo i'r ysbyty.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth, ac yn annog unrhyw un all fod o gymorth i'w hymchwiliad i gysylltu gyda'r llu gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Z148033.
Llun: Google