Brains i werthu 99 o'u tafarndai am £87.3m

Wales Online 08/10/2021

Mae Bragdy Brains yn bwriadu gwerthu bron i 100 o'u tafarndai yng Nghymru am £87.3m.

Yn ôl Wales Online, mae'r tafarndai sydd ar werth yn cynnwys The City Arms a'r Halfway yng Nghaerdydd, a'r Harbour a'r Dovey Inn yn Aberdyfi. 

Daw hyn lai nai blwyddyn ers i'r bragdy gytuno i drosglwyddo 150 o dafarndai dan ofal cwmni Marstons mewn cytundeb hir dymor. 

Mae'r rhan fwyaf o'r tafarndai y mae Brains yn bwriadu eu gwerthu wedi eu lleoli yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Llun: Jaggery