Cynllun i gadw Cymru'n 'agor a diogel' yn erbyn Covid yn ystod y gaeaf
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi cynlluniau newydd er mwyn cadw Cymru yn "agor ac yn ddiogel" yn ystod misoedd dros yr hydref a'r gaeaf.
Mae'r cynllun, a elwir yn Cynllun Rheoli'r Coronafeirws, yn cynnig dwy senario gynllunio ar gyfer y pandemig dros gyfnod y gaeaf.
'Covid Sefydlog'
O dan senario gyntaf, sy'n cael ei alw'n Covid Sefydlog, fe fydd Cymru yn aros ar lefel rhybudd sero drwy gydol yr hydref a'r gaeaf, gyda phob busnes yn gallu agor.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maent yn credu mai dyma'r senario fwyaf tebygol ar gyfer y dyfodol.
Os bydd nifer yr achosion o Covid-19 yn gostwng, gallai mesurau gael eu llacio ymhellach. Ond, os bydd y nifer o achosion yn cynyddu, gallai rhai mesurau presennol gael eu cryfhau, yn ôl y llywodraeth.
'Covid Brys'
Mae'r ail senario yn cael ei alw'n Covid Brys.
Fe fydd y senario hyn yn dod i rym er mwyn ymateb i unrhyw newidiadau sydyn, er enghraifft ymddangosiad amrywiolyn newydd a fydd yn lledaenu'n gyflym, neu gallai'r lefelau imiwnedd a fydd wedi eu meithrin yn sgil cael y brechlyn yn gostwng, ac o ganlyniad yn rhoi y Gwasanaeth Iechyd o dan ormod o bwysau.
Mewn senario o’r fath, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd system lefelau rhybudd a chyfyngiadau yn cael ei defnyddio mewn "modd cymesur i ddiogelu iechyd pobl, rheoli lledaeniad yr haint a diogelu’r Gwasanaeth Iechyd".
Coronafeirws heb 'ddiflannu'
Wrth gyhoeddi'r cynllun, dywedodd Mark Drakeford fod Cymru'n wynebu gaeaf "heriol iawn".
“Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu ac maen nhw hefyd yn rhagweld y bydd y ffliw yn dychwelyd y gaeaf hwn," eglurodd.
“Y brechlyn yw’r amddiffyniad gorau sydd gennym ni o hyd yn erbyn y coronafeirws. Y mwyaf o bobl a fydd yn cael eu brechu’n llawn, y gorau oll fydd ein siawns o reoli lledaeniad y feirws ofnadwy hwn.
“Byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ar gynyddu nifer y bobl sy’n cael brechiadau COVID-19 ar draws y grwpiau oedran a’r grwpiau blaenoriaeth yn ogystal â chyflwyno’r brechiad atgyfnerthu. Rydyn ni hefyd yn annog pob un sy’n gymwys i fynd i gael y brechiad rhag y ffliw eleni.
“Mae amrywiaeth o fesurau eraill y gallwn ni i gyd eu cymryd hefyd i ddiogelu ein hunain a’n teuluoedd a’n ffrindiau – mesurau fel golchi ein dwylo, cwrdd â llai o bobl a gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do.
“Mae’r mesurau hyn wedi ein helpu ni i gadw’n ddiogel drwy gydol y pandemig a byddan nhw hefyd yn helpu i’n diogelu rhag feirysau eraill y gaeaf, fel y ffliw a heintiau anadlol eraill.”
Fe fydd Mark Drakeford yn egluro rhagor o wybodaeth ar Cynllun Rheoli'r Coronafeirws mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, 8 Hydref.