Newyddion S4C

Myfyriwr Prifysgol Caerdydd wedi'i garcharu am ymosodiad asid

Wales Online 07/10/2021
S4C

Mae myfyriwr meddygol o Gaerdydd wedi’i garcharu am 11 mlynedd ar ôl iddo wisgo fyny fel dynes a thaflu asid i wyneb ei gyn bartner yn ei chartref yn Brighton.

Ymosododd Milad Rouf, 25, ar Rym Alaoui, sy'n feddyg, ar ôl iddi ateb drws ei chartref yng Ngerddi Steine, Brighton, ar 20 Mai.

Mae Dr Alaoui, sydd yn ei hugeiniau, wedi’i gadael gydag anffurfiadau wyneb ac anafiadau sy'n newid bywyd.

Yn ôl Wales Online, roedd y ddau wedi cyfarfod tra’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ac roeddent mewn perthynas a ddaeth i ben ym mis Mawrth pan symudodd Dr El Alaoui i Brighton.

Clywodd Llys y Goron Lewes bod Rouf yn gwisgo "siwt dew", sbectol haul a fisor pan gurodd ar ddrws Dr Alaoui, yna rhoddodd nodyn iddi a thaflu asid drosti cyn rhedeg i ffwrdd.

Yn dilyn ymchwiliad o fflat Mr Rouf yng Nghaerdydd, daeth swyddogion o hyd i 'restr siopa' drylwyr yn manylu ei guddwisg.

Darllenwch y stori'n llawn yma.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.