Newyddion S4C

Arweinydd y Ceidwadwyr yn cymryd seibiant o'i waith oherwydd iechyd meddwl

07/10/2021
Andrew RT Davies

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ei fod yn blaenoriaethu iechyd meddwl ar ôl iddo brofi’n bositif am Covid-19.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Andrew RT Davies ei fod wedi bod yn sâl gyda’r ffliw ers pythefnos, ond ei fod bellach wedi profi’n bositif am Covid-19.

Yn ôl Mr Davies, mae’r haint wedi cael effaith ar ei les meddyliol, a bydd yn cymryd "seibiant llwyr" o’i waith er mwyn gwella.

Cyn-arweinydd y blaid, Paul Davies, sydd yn edrych ar ôl ei gyfrifoldebau yn y cyfamser.

Dywedodd Mr RT Davies: “Rwy’n dechrau gwella, ond mae rhaid i mi gyfaddef ei fod [Covid-19] wedi fy effeithio’n fawr a'i fod wedi cael effaith ar fy lles meddyliol.

“Fel nifer o ddynion, rwyf wastad wedi meddwl fod gennyf darian anorchfygol, ac fel nifer sydd wedi dioddef, rwyf wedi ystyried tybed a ddylwn i wneud hyn yn gyhoeddus.

“Serch hynny, fel arweinydd, rwy’n credu y dylai rhywun osod esiampl a hoffwn fod yn agored ac yn onest – yn yr amseroedd da a drwg – gan i mi wybod bod nifer o bobl wedi dioddef ac yn mynd i ddioddef gyda’i iechyd meddwl.

“Felly, fel mae’r doctor wedi ei ddweud, byddaf yn cymryd seibiant llwyr o’m gwaith er mwyn sicrhau fy mod yn gwella yn llawn a bownsio nôl o’r heriau rwyf wedi eu profi dros y pythefnos diwethaf.

“Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch i Paul Davies am barhau gyda’m cyfrifoldebau yn ystod fy absenoldeb ac rwy’n gofyn am barchu preifatrwydd fy nheulu.”

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi estyn ei gydymdeimlad.

Dywedodd: "Mae mor bwysig ein bod ni'n cael cymorth pam rydym ei angen - rwyf yn gobeithio bydd eraill yn dilyn ei esiampl ac yn gwneud yr un peth.

"Mae pob tro lle i fwy o garedigrwydd yn ein bywydau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.