Newyddion S4C

Cymry yn Israel yn galw am gynllun brechu cyflymach yn eu mamwlad

ITV Cymru 06/10/2021
Sarah Idan sy'n byw yn Isreal

Mae Cymry sy’n byw yn Israel yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno polisi brechu tebyg i’r wlad.

Mae 40% o boblogaeth Israel wedi derbyn trydydd brechlyn Covid-19.

Israel oedd y wlad gyntaf yn y byd i frechu dros hanner y boblogaeth ac ers mis Gorffennaf, maent wedi bwrw ymlaen gyda chynllun i roi brechlyn ychwanegol i’r cyhoedd.

Mae rhaglen y Byd yn ei Le wedi siarad gyda dwy fenyw, sy’n wreiddiol o Gymru ond nawr yn byw yn Israel, sy’n dweud y dylai eu mamwlad ddilyn esiampl eu cartref newydd.

Dywedodd Sarah Idan, sy’n gweithio mewn ysbyty yn Jerusalem: “Dwi’n gweithio yn yr ysbyty felly rwy mewn cyswllt agos gyda pobl trwy'r dydd ac o’n i’n dechrau gweld pobl oedd wedi cael dau vaccine sy’n cael Covid a sy’n cyrraedd yr ysbyty.

“Felly o’n i’n falch iawn i gael y trydydd vaccine a’n teimlo’n fwy diogel, yn enwedig yn fy ngwaith i.”

Cynyddodd cyfraddau Covid-19 yn sydyn dros yr haf ond dros yr wythnosau diwetha, wrth i fwy o bobl gael brechlyn ychwanegol, mae’r nifer o achosion newydd wedi gostwng yn gyflym.

Ar ddechrau mis Medi, roedd 10,000 o achosion newydd o’r feirws bob dydd ar gyfartaledd.

Erbyn hyn mae wedi gostwng i tua 3,000 achos y dydd.

Dywedodd Sarah: “Yn yr ysbytai mae pobl sydd wedi cael dau vaccine neu heb gael un o gwbl, nhw yw’r bobl sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd, sy’n dost iawn.

“Mae rhan fwyaf o bobl sy’n cael y trydydd vaccine, os maen nhw’n dal y Covid, ddim yn cael symtomau o gwbl.”

Ym mis Chwefror cyflwynwyd ‘pàs gwyrdd’ yn Israel i alluogi pobl sydd wedi cael eu brechu i gael mynediad i theatrau, campfeydd a digwyddiadau mawr fel chwaraeon byw.

Pleidleisiodd Senedd Cymru o blaid cyflwyno cynllun tebyg ddydd Mawrth.

Mae Nerys Thomas, sy’n byw yn Rehovot i’r de o Tel Aviv, yn dweud bod y pàs wedi gweithio’n dda yn Israel.

“Mae o’n rhywbeth newydd ond fatha pob peth newydd ella bod ychydig bach o broblemau efo fo ond dwi’n ei weld o’n hawdd iawn i’w ddefnyddio.

“Dwi naill ai’n agor fy ffon a dwi’n ei ddangos o i ble bynag dwi’n mynd. Mae’r app yna, mae’n profi bo’ fi wedi cael fy nhrydydd brechlyn.”

Ychwanegodd Nerys: “Dwi’n meddwl bod o’n gweithio’n dda yn Israel ac mae’r boblogaeth yn barod i’w ddefnyddio fo.

"Dwi ddim yn gweld dim rheswm pam fyddai ddim yn gweithio hefyd yng Nghymru ond mae’n rhaid i’r boblogaeth fod yn barod i’w dderbyn o ac wrth gwrs mae’n rhaid iddo fo gael ei weithio allan yn gynta, sut mae’n mynd i weithio yng Nghymru.”

Gallwch weld mwy am y stori yma ar raglen Y Byd yn Ei Le nos Fercher am 8:25 ar S4C.

Llun: ITV Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.