Cwpan y Byd 2022: Ben Davies a David Brooks allan o garfan Cymru
Mae dau newid i garfan Cymru ar gyfer y gemau rhagbrofol nesaf yn eu hymgyrch ar gyfer Pencampwriaeth Cwpan y Byd 2022.
Fe gyhoeddodd y Gymdeithas Bêl-droed ddydd Mercher bod Ben Davies a David Brooks allan o'r garfan oherwydd salwch.
DIWEDDARIAD CARFAN 🏴
— Wales 🏴 (@Cymru) October 6, 2021
Ben Davies and David Brooks have had to withdraw from the squad due to illness.
Brysiwch wella hogia! #TogetherStronger pic.twitter.com/gO3hXHnPNh
Mae hyn yn ergyd arall i Gymru cyn iddynt herio Gweriniaeth Siec ym Mhrag ddydd Gwener, gyda Gareth Bale ddim yn y garfan oherwydd anaf.
Fe gafodd Will Vaulks a Ben Cabango eu galw i'r garfan yn gynharach yr wythnos hon hefyd yn dilyn y newyddion bod Rhys Norrington-Davies a Tom Lockyer allan hefyd oherwydd anaf.
Nid yw hi'n glir pwy fydd yn cael eu galw i gymryd lle'r ddau yn y garfan ar gyfer y ddwy gêm ym mis Hydref.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans