Newyddion S4C

Cynnal gwylnos i gofio am Sabina Nessa

Mirror 06/10/2021
S4C

Cafodd gwylnos ei gynnal nos Fawrth i gofio’r athrawes Sabina Nessa.

Fe ddaeth pobl at ei gilydd yn Eastbourne, yn nwyrain Sussex, ble roedd y dyn sydd wedi ei gyhuddo o’i llofruddio yn byw.

Roedd y dorf yn dal lluniau o Sabina, gyda negeseuon yn dweud “roedd hi ond yn cerdded adref” a “stopiwch ein lladd”.

Dywedodd Natasha Peacock, un o drefnwyr y digwyddiad, wrth y dorf: “Mae menywod yn brwydro am eu bywydau ac yn ystyried y risg o fynd allan gyda’r nos ac o bosibl yn cael eu hymosod, eu treisio a’u llofruddio.

“Mae hwn yn argyfwng, faint yn fwy ohonom sydd angen marw cyn i hyn gael ei gymryd o ddifrif?”

Fe gafodd y fenyw ei lladd wrth iddi gerdded i dafarn ger ei chartref yn ne ddwyrain Llundain ar 17 Medi.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.