Dyn wedi marw yn dilyn gwrthrawiad ym Mhowys
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A490 ym Mhowys.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, bu farw'r dyn yn y fan a'r lle mewn gwrthdrawiad rhwng tri char tua 8:00 fore dydd Mawrth.
Mae'r heol ger ardal Cegidfa yn dal ynghau wrth i'r heddlu barhau â'u hymchwiliad.
Dylai modurwyr osgoi'r ardal os yn bosib.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20211005-03.
Llun: Google