Newyddion S4C

Problemau technegol i ddefnyddwyr Facebook, Instagram a Whatsapp

Sky News 04/10/2021
Facebook

Mae defnyddwyr Facebook, Instagram a Whatsapp wedi dioddef problemau technegol wrth geisio cael mynediad i'w gwasanaethau ar y we brynhawn dydd Llun.

Fe wnaeth cwmni Facebook, sydd yn berchen ar Instagram a WhatsApp, ymddiheuro am y trafferthion technegol oedd yn golygu nad oedd defnyddwyr yn gallu anfon na derbyn negeseuon, na diweddaru eu tudalennau.

Yn ôl Sky News, fe ddechreuodd problemau godi ychydig cyn 17:00, ac fe ddywedodd Facebook eu bod yn gwneud popeth o fewn eu galli i geisio datrys y sefyllfa.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.