15 mlynedd o garchar i ddyn am dreisio dynes mewn parc yng Nghaerdydd
Mae dyn wedi derbyn dedfryd o 15 mlynedd o garchar am dreisio menyw ym Mharc Biwt, Caerdydd yn gynharach eleni.
Fe wnaeth Tyler Higgins, 20 oed, gyfaddef i ddau achos o dreisio yn ystod oriau mân y bore ar 15 Gorffennaf.
Y noson honno, fe wnaeth Higgins, o Cathays, Caerdydd, ddod ar draws y fenyw tra roedd hi ar goll wrth gerdded o Cathays nôl i westy yng nghanol y ddinas.
Fe wnaeth gynnig dangos y ffordd iddi, cyn ei harwain i Barc Biwt, ble gyflawnodd y drosedd.
Wrth ddedfrydu Higgins yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, fe wnaeth y barnwr ganmol "safon a chyflymder" ymchwiliad Heddlu De Cymru.
Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Arolygydd Grant Wilson o Heddlu De Cymru: “Mae ymosodiadau gan ddieithriaid fel rhain yn hynod o anghyffredin yng Nghaerydd, ond yn achos Tyler Higgins roedd gennym unigolyn peryglus.
“O'r munud yr adroddwyd am y drosedd, roeddem yn hollol benderfynol o ddod o hyd i'r unigolyn oedd yn gyfrifol, a dod ag ef o flaen ei well."