Newyddion S4C

Carcharu gofalwraig am ddwyn £300,000 gan fenyw 100 oed

Wales Online 04/10/2021
Gofalwr yn euog o dwyll

Mae gofalwraig wnaeth ddwyn dros £300,000 gan fenyw 100 oed gan ei thwyllo dros gyfnod o flynyddoedd wedi ei dedfrydu i bum mlynedd o garchar ddydd Llun. 

Fe wnaeth Rhian Horsey, 55 oed, gyflawni saith gweithred o dwyll rhwng 2011 a 2017 gan ddwyn rhwng £290,000 a £320,000 oddi ar Iris Sansom - menyw yr oedd Horsey yn gofalu amdani yn ei chartref yng Nghaerdydd.

Gwadodd y diffynnydd y cyhuddiadau, ond fe gafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.

Daeth y lladrad i’r amlwg ar ôl i ferch Mrs Sansom, Kathryn Taylor, bryderu ynghylch symiau o arian a dynnwyd o gyfrif ei mam. 

Darllenwch y stori'n llawn yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.