Newyddion S4C

Dyn yn lladd ei fam cyn byw gyda'i chorff yn ei fflat am ddeufis

04/10/2021
S4C

Mae dyn a lofruddiodd ei fam â morthwyl cyn parhau i fyw yn ei chartref gyda'i chorff am ddau fis wedi cael ei ddedfrydu i oes yn y carchar.

Bydd Dale Morgan, 43 oed, o Honeyborough Green, Neyland, yn treulio o leiaf 21 mlynedd a chwe mis yn y carchar ar ôl cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun. 

Cafwyd hyd i gorff ei fam, Judith Rhead, yn ei chartref yn Stryd y Farchnad, Doc Penfro, ar ddydd Sadwrn, 20 Chwefror eleni.

Roedd wedi ei tharo ar ei phen 14 o weithiau gyda morthwyl, ac roedd Dale Morgan wedi gadael bag plastig ar ei phen.

Cafodd Morgan ei arestio yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ac mae wedi bod yn y ddalfa ers hynny.

Plediodd yn euog i gyhuddiad o lofruddiaeth mewn gwrandawiad ar 31 Awst.

Dywedodd y Ditectif Jayne Butler: “Mae'r ffaith iddi farw o ganlyniad i'w mab ei hun ac yn ei chartref ei hun yn ychwanegu at greulondeb ac arswyd yr hyn yr aeth hi drwyddo.

“Gwelwyd Judith yn fyw ddiwethaf ar 11 Rhagfyr a chredir iddi gael ei llofruddio cyn y Nadolig, gydag anrhegion heb eu hagor yn dal yn ei chartref.

“Parhaodd Morgan i fyw yn fflat ei fam wrth iddo geisio cuddio’r hyn a wnaeth, gan gerdded ei chi a dweud celwydd wrth ei ffrindiau pryderus pan ofynasant ble roedd hi.”

Cyn ymddangos yn y llys ym mis Chwefror fe ddywedodd Morgan wrth swyddog o Heddlu Dyfed-Powys: “A bod yn onest, mae’n rhyddhad bod pethau allan o fy nwylo nawr.”

Mae teulu Ms Rhead wedi ei disgrifio fel menyw "uchel ei pharch yn ei chymuned.

“Roedd hi’n berson mor dyner, nad oedd yn haeddu marw mewn ffordd mor erchyll.

“Fel teulu rydym yn gofyn i bobl barchu ein preifatrwydd yn ystod yr amser anodd hwn."

Llun: Heddlu Dyfed Powys

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.