Lori'n taro pont reilffordd ym Mhen-y-bont ar Ogwr
04/10/2021
Dywed Heddlu De Cymru fod lori wedi taro yn erbyn pont reilffordd ym Mhen-y-bont ar Ogwr fore dydd Llun.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Quarella, ac roedd y ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod medd swyddogion.
Cafodd teithiau trenau ar y rheilffordd rhwng Caerdydd ag Abertawe eu heffeithio hefyd.
Nid oes unrhyw adroddiadau fod neb wedi eu hanafu yn y digwyddiad.