Rhybudd melyn am law trwm nos Lun
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm i’r rhan fwyaf o Gymru nos Lun.
Fe ddaeth y rhybudd i rym am 17:00 brynhawn dydd Llun ac fe fydd yn para tan 04:00 fore dydd Mawrth.
Fe allai’r glaw achosi llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau, a gallai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gael eu heffeithio hefyd.
Mae disgwyl i wyntoedd cryfion a band o law ledu ar hyd Cymru, gyda hyd at 40-50mm o law yn syrthio mewn rhannau o’r de a’r gogledd orllewin.