Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o brif straeon Cymru a thu hwnt ar fore Llun, 4 Hydref.
Disgwyl i’r canghellor addo £500m ar gyfer cyfleoedd am swyddi wedi’r pandemig
Mae disgwyl i’r canghellor Rishi Sunak gyhoeddi y bydd £500m yn cael ei wario ar greu cyfleoedd am swyddi ar ôl y pandemig. Yn ôl Sky News, mewn araith yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr ddydd Llun, bydd Mr Sunak yn cyhoeddi'r camau nesaf ar ôl i’r cynllun ffyrlo i weithwyr ddod i ben.
Cyfrinachau ariannol arweinwyr byd a gwleidyddion yn cael eu rhyddhau
Mae dogfennau cyfrinachau ariannol mwy na miliwn o biliynyddion, 35 o arweinwyr byd a 300 o swyddogion cyhoeddus wedi eu rhyddhau. Mae bron i 12,000 o ddogfennau wedi eu rhyddhau sy’n cael eu galw’n bapurau Pandora yn dangos cyfrinachau am gyfoeth arweinwyr byd presennol yn ogystal â chyn-wleidyddion, gweinidogion chadfridogion, yn ôl The Guardian.
Covid-19: Cyflymu’r broses o frechu plant 12 i 15 oed yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ddydd Llun, y bydd plant rhwng 12 i 15 oed ar draws Cymru wedi cael cynnig brechiad Covid-19 erbyn diwedd hanner tymor mis Hydref. Bydd pob plentyn o’r grŵp oedran dan sylw yn cael eu gwahodd drwy lythyr i gael un dos o frechlyn Pfizer. Fe fydd rhan fwyaf yn derbyn y brechlyn mewn canolfannau brechu torfol, ond mewn rhai ardaloedd, bydd ysgolion yn cael eu defnyddio hefyd.
Y fyddin yn dechrau dosbarthu tanwydd mewn ymateb i'r argyfwng petrol
Mae aelodau o’r fyddin wedi dechrau dosbarthu tanwydd i orsafoedd petrol am y tro cyntaf oherwydd prinder gweithwyr HGV a phobl yn prynu “mewn panig”. Mae tua 200 o aelodau o’r fyddin, hanner ohonynt yn gyrru tanceri, wedi cychwyn ar y gwaith sy’n cael ei alw’n 'Operation Escalin'. Yn ôl The Independent, mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod disgwyl i’r lluoedd “lenwi unrhyw swyddi allweddol a chadw’r wlad i symud” wrth edrych tua’r Nadolig.
Newidiadau i deithio rhyngwladol o Gymru yn dod i rym
Ni fydd angen i deithwyr o Gymru sydd wedi cael eu brechu’n llawn yn erbyn Covid-19 gael prawf cyn teithio dramor o ddydd Llun. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi uno'r rhestrau teithio gwyrdd ac oren o wledydd. Bydd y newidiadau’n digwydd yn unol â system Llywodraeth y DU.