Disgwyl addewid o £500m ar gyfer cyfleoedd swyddi wedi’r pandemig
Mae disgwyl i’r canghellor Rishi Sunak gyhoeddi y bydd £500m yn cael ei wario ar greu cyfleoedd am swyddi ar ôl y pandemig.
Mewn araith yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr ddydd Llun, bydd Mr Sunak yn cyhoeddi'r camau nesaf ar ôl i’r cynllun ffyrlo i weithwyr ddod i ben.
Yn ôl Sky News, mae lefelau diweithdra yn y DU wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig ond mae pryderon y gallai hyn newid oherwydd bod y cynllun ffyrlo wedi gorffen.
Yn ei araith, mae disgwyl i’r canghellor ddweud: “Dyw’r nod heb ei gyflawni eto a dw i eisiau gwneud yn siwr bod ein economi yn barod ar gyfer y dyfodol ac mae hynny’n golygu darparu cefnogaeth a sgiliau sydd eu hangen ar bobl i ddod o hyd i waith a mynd ymlaen mewn bywyd.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.