Newyddion S4C

Newidiadau i deithio rhyngwladol o Gymru yn dod i rym

04/10/2021
Pixabay

Ni fydd angen i deithwyr o Gymru sydd wedi cael eu brechu’n llawn yn erbyn Covid-19 gael prawf cyn teithio dramor o ddydd Llun.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi uno'r rhestrau teithio gwyrdd ac oren o wledydd. 

Bydd y newidiadau’n digwydd yn unol â system Llywodraeth y DU.

Er hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad eto am ganiatáu i deithwyr i ddefnyddio prawf llif unffordd ar ôl dychwelyd adref fel sy'n cael ei ganiatáu yn Lloegr, yn hytrach na phrawf PCR.

Ym mis Medi, dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y llywodraeth wedi “pwyso yn gyson” ar Lywodraeth y DU i gymryd camau “mwy rhagofalus” o ran teithio rhyngwladol.  

“Rydym yn parhau i fod yn bryderus am benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â’i gwneud yn ofynnol i deithwyr sy’n dychwelyd wneud profion PCR ar ddiwrnod dau oherwydd bod gennym bryderon gwirioneddol ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno amrywiolyn newydd, mwy ymosodol o Covid o rannau eraill o'r byd, a allai fynd heibio’r amddiffyniad sydd gennym ar hyn o bryd o ganlyniad i'n rhaglen frechu,” dywedodd.

“Mae cynnal prawf PCR ar ddiwrnod dau, a dadansoddi dilyniant genom yr holl ganlyniadau positif, yn parhau i fod yn rhan allweddol o’n gwyliadwriaeth ar gyfer coronafeirws, a dylid ei gadw.

“Mae dadansoddi’r dilyniant genom yn galluogi i wyddonwyr medrus adnabod amrywiolion newydd o’r coronafeirws. Heb brawf PCR, mae’n anodd iawn gweld sut y bydd Llywodraeth y DU yn gallu gwneud hynny,” ychwanegodd.

“Yr ateb mewn gwirionedd yw cadw’r profion PCR diwrnod dau ar draws y Deyrnas Unedig. Byddwn yn dal i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i ailgyflwyno profion ar gyfer y DU gyfan, ac yn parhau i archwilio’r dystiolaeth am drefn brofi i Gymru yn unig.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.