Newyddion S4C

Cyfrinachau ariannol arweinwyr byd a gwleidyddion yn cael eu rhyddhau

The Guardian 04/10/2021
Llun o Tony Blair a Vladimir Putin

Mae dogfennau sydd yn datgelu cyfrinachau ariannol mwy na miliwn o biliynyddion, 35 o arweinwyr byd a 300 o swyddogion cyhoeddus wedi eu rhyddhau.

Mae bron i 12,000 o ddogfennau, sy’n cael eu galw’n bapurau Pandora, wedi eu rhyddhau sydd yn datgelu manylion am gyfoeth arweinwyr byd presennol yn ogystal â chyn-wleidyddion, gweinidogion a chadfridogion.

Ymhlith yr enwau mae cyn-brif weinidog y DU, Tony Blair ac Arlywydd presennol Rwsia, Vladimir Putin.

Yn ôl The Guardian, mae’r dogfennau’n datgelu gwybodaeth am roddion sylweddol i’r blaid Geidwadol sy’n debygol o “godi cwestiynau anodd i Boris Johnson wrth i’w blaid gwrdd ar gyfer eu cynhadledd flynyddol.”

Dywedodd y Canghellor Rishi Sunak wrth y BBC fore dydd Llun fod gan Brydain record dda o fynd i'r afael ag achosion o osgoi talu trethi, a bod y broblem yn un fyd-eang.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.