Newyddion S4C

Y fyddin yn dechrau dosbarthu tanwydd mewn ymateb i'r argyfwng petrol

The Independent 04/10/2021
Gorsaf petrol

Mae aelodau o’r fyddin wedi dechrau dosbarthu tanwydd i orsafoedd petrol am y tro cyntaf oherwydd prinder gweithwyr HGV a phobl yn prynu “mewn panig”.

Mae tua 200 o aelodau o’r fyddin, hanner ohonynt yn gyrru tanceri, wedi cychwyn ar y gwaith sy’n cael ei alw’n 'Operation Escalin'.

Yn ôl The Independent, mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod disgwyl i’r lluoedd “lenwi unrhyw swyddi allweddol a chadw’r wlad i symud” wrth edrych tua’r Nadolig.

Mae’r Llywodraeth wedi dweud bod yr argyfwng tanwydd ar hyd y DU wedi sefydlogi, ond bod rhannau o Dde Lloegr yn arafach yn adfer.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.