Arestio dyn ar amheuaeth o ymosodiad difrifol yn Llanelli

03/10/2021
Heddlu.
Heddlu.

Mae dyn 20 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosodiad difrifol yn Llanelli nos Sadwrn. 

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r digwyddiad tu allan i Siop One Stop yn y dref oddeutu 19:10. 

Dywedodd yr heddlu fod dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol. 

Mae'r dyn 20 oed yn parhau yn y ddalfa. 

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DPP/0536/02/10/2021/02/C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.