Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar brif benawdau'r bore ar ein gwasanaeth ar fore Sul, 3 Hydref.
Cynhadledd y Ceidwadwyr yn agor mewn cyfnod cythryblus i Boris Johnson
Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi addo y bydd yn cymryd "penderfyniadau mawr" ar faterion megis gofal cymdeithasol, cefnogi swyddi, newid hinsawdd a throseddau, yn ôl The Guardian. Daw hyn wrth i aelodau ei blaid ymgynnull ar gyfer eu cynhadledd ym Manceinion ddydd Sul.
Galw am dro pedol ar benderfyniad i ddileu'r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol
Mae llywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig wedi anfon llythyr at y Prif Weinidog Boris Johnson yn ei annog i wyrdroi’r penderfyniad i ddileu’r cynnydd wythnosol o £20 mewn Credyd Cynhwysol. Mae'r llythyr yn nodi nad yw'n "rhyw hwyr" i wyrdroi’r penderfyniad i “dynnu arian allan o bocedi’r tlotaf mewn cymdeithas”.
Mam yn trafod colled teulu wedi marwolaeth ei mab ar fferm yn Sir Benfro
Mae mam i fachgen bach fu farw ar fferm yn Sir Benfro wedi bod yn disgrifio'r golled y mae'r teulu wedi ei ddioddef yn dilyn ei farwolaeth. Bu farw Ianto Jenkins, oedd yn dair oed, ar ôl i gerbyd ei daro ar y fferm deuluol yn Rhosfach, Efailwen wyth wythnos yn ôl.
Llofrudd Sarah Everard wedi gweithio fel heddwas yn San Steffan
Mae Heddlu'r Met wedi cadarnhau fod y cyn-heddwas oedd yn euog o lofruddio Sarah Everard wedi bod ar ddyletswydd yn Nhŷ'r Cyffredin yn y gorffenol. Yn ôl The Independent, dywedodd Scotland Yard fod Wayne Couzens wedi ei leoli yno ar ddyletswyddau amddiffyn arfog bum gwaith rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf y llynedd.
Abergele'n paratoi i groesawu I'm a Celebrity am yr eildro
Fe fydd y gyfres boblogaidd, ‘I’m a Celebrity: Get Me Out of Here’ yn dychwelyd i Gastell Gwrych yn 2021. Mae’r castell wedi cau ei ddrysau am y tro er mwyn galluogi i gynhyrchwyr y rhaglen i baratoi am y gyfres newydd. Yn y cyfamser, mae rhai o drigolion Abergele yn gobeithio bydd y gyfres yn rhoi hwb economaidd a theimlad o gymuned i’r ardal, fel a gafwyd y llynedd.