Newyddion S4C

Galw am dro pedol ar benderfyniad i ddileu'r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol

03/10/2021
JD Mack

Mae llywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig wedi anfon llythyr at y Prif Weinidog Boris Johnson yn ei annog i wyrdroi’r penderfyniad i ddileu’r cynnydd wythnosol o £20 mewn Credyd Cynhwysol.

Mae’r llythyr wedi’i lofnodi gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ynghyd â Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, Paul Givan, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon a'i ddirprwy Michelle O’Neill. 

Mae'r llythyr yn nodi nad yw'n "rhyw hwyr" i wyrdroi’r penderfyniad i “dynnu arian allan o bocedi’r tlotaf mewn cymdeithas”.

Daw hyn ar ôl i Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, lofnodi llythyr ar ran Llywodraeth Cymru, ynghyd â Shona Robinson, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, Tai a Llywodraeth Leol yr Alban, a Deidre Hargey, Gweinidog Cymunedau Gogledd Iwerddon yn galw ar Lywodraeth y DU i wyrdroi’r penderfyniad ym mis Awst.

Dywedodd y llythyr hwnnw fod y llywodraethau datganoledig yn pwysleisio am yr angen i gefnogi pobl y DU yn ystod “argyfwng costau byw sylweddol”.

Y gaeaf hwn mae miliynau o bobl yn wynebu cyfuniad anghynaliadwy o gynnydd mewn costau bwyd ac ynni, cynnydd mewn chwyddiant, diwedd y cynllun ffyrlo, a chynnydd sydd ar ddod mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

“Mae'n bwysig ein bod yn tynnu eich sylw at y corff cynyddol o dystiolaeth a dadansoddiadol am y niwed y bydd y toriad hwn yn ei achosi.

“Mae ymchwil gan y Resolution Foundation ac Ymddiriedolaeth Trussell wedi tynnu sylw at yr effaith sylweddol a dinistriol y bydd tynnu’n ôl y codiad o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol yn ei gael ar incwm, gyda chynnydd cysylltiedig mewn ansicrwydd bwyd.

“Mae Sefydliad Legatum wedi llunio dadansoddiad sobreiddiol gan dynnu sylw at y ffaith bod y codiad o £20 yr wythnos wedi cadw 840,000 o bobl, gan gynnwys 290,000 o blant, allan o dlodi yn ail chwarter 2021.

“Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i ddilyn polisi yn gwbl fwriadol a fydd yn arwain at y cynnydd aruthrol a diangen hwn mewn tlodi plant a gofynnwn i chi ystyried niwed parhaus a chostau'r toriad hwn yn unol â hynny.

“Er mwyn cefnogi adferiad ystyrlon o'r pandemig hwn mae'n rhaid i ni i ddechrau sicrhau bod anghenion ein rhai mwyaf agored i niwed yn cael eu diwallu. Mae'r toriad hwn yn bygwth tanseilio'r adferiad drwy leihau gallu chwe miliwn o bobl i gael dau ben llinyn ynghyd.”

Mewn ymateb i’r llythyr, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Rydym wastad wedi bod yn glir bod y codiad i Gredyd Cynhwysol a’r cynllun ffyrlo yn rhywbeth dros dro.

"Fe'u cynlluniwyd i helpu pobl oedd yn eu hawlio drwy sioc economaidd ac aflonyddwch ariannol yn ystod cyfnodau anoddaf y pandemig, ac maen nhw wedi cyflawni hynny.

“Bydd Credyd Cynhwysol yn parhau i ddarparu cefnogaeth hanfodol i’r rheini sydd mewn gwaith ac allan o waith, a bydd cartrefi bregus ledled y wlad yn gallu cael gafael ar gronfa gymorth newydd gwerth £500m i’w helpu gyda hanfodion dros y misoedd nesaf wrth i’r wlad barhau i wella o’r pandemig.”

Llun: JD Mack

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.