Newyddion S4C

Mam yn trafod colled teulu wedi marwolaeth ei mab ar fferm yn Sir Benfro

Wales Online 03/10/2021
Ianto Sior Jenkins

Mae mam i fachgen bach fu farw ar fferm yn Sir Benfro wedi bod yn disgrifio'r golled y mae'r teulu wedi ei ddioddef yn dilyn ei farwolaeth.

Bu farw Ianto Jenkins, oedd yn dair oed, ar ôl i gerbyd ei daro ar y fferm deuluol yn Rhosfach, Efailwen wyth wythnos yn ôl.

Yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd ei fam, Chloe Picton, fod ei mab yn "fachgen bach caredig oedd bob amser yn gwenu ac yn chwerthin.

"Roedd wrth ei fodd yn bod allan ar y fferm ac yn mynd ar y tractor gyda'i dad. Roedd gan Ianto a minnau gysylltiad cryf iawn, roedd yn fachgen bach ei fam oedd bob amser wrth fy ochr bob man yr aethon ni, a nawr mae hynny wedi ei gymryd oddi arna i."

Mewn cyfweliad gyda Wales Online ddydd Sul, dywedodd Chloe Picton ei bod yn parhau i fod mewn sioc ac anghrediniaeth yn dilyn ei cholled.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.