Newyddion S4C

Abergele'n paratoi i groesawu I'm a Celebrity am yr eildro

Newyddion S4C 03/10/2021

Abergele'n paratoi i groesawu I'm a Celebrity am yr eildro

Fe fydd y gyfres boblogaidd, ‘I’m a Celebrity: Get Me Out of Here’ yn dychwelyd i Gastell Gwrych yn 2021.

Ym mis Awst, fe gadarnhaodd cynhyrchwyr y rhaglen gan ITV eu bod wedi canslo cynlluniau i ffilmio’r gyfres yn Awstralia, wrth i’r wlad wynebu cyfnodau clo a chynnydd mewn achosion o Covid-19.

Bu’n rhaid i’r gyfres ddod o hyd i gartref newydd y llynedd yn sgil y pandemig, gan roi Castell Gwrych yn Abergele ar y map.

Mae’r castell wedi cau ei ddrysau am y tro er mwyn galluogi i gynhyrchwyr y rhaglen i baratoi am y gyfres newydd.

Yn y cyfamser, mae rhai o drigolion Abergele yn gobeithio bydd y gyfres yn rhoi hwb economaidd a theimlad o gymuned i’r ardal, fel a gafwyd y llynedd.

“O’dd bobl yn twrio i lan y môr ar fin nos,” dywedodd Cynghorydd Delyth MacRae o Gyngor Tref Abergele.

“Yn dod a picnics efo nhw a bob peth gan bod na’m byd agored, i weld y goleuadau mawr ar y castell.

“Heddiw, flwyddyn yma, mae pawb yn gobeithio bydd y Covid wedi gwella a gawn ni amser da iawn a geith y busnesau rhoi hwb i’r economi.”

Roedd y gŵr busnes lleol Prys Jones yn cytuno.

Image
Newyddion S4C
Mae Prys Jones yn gobeithio bydd y gyfres 'I'm a Celeb' yn "beth braf" i'r gymuned yn Abergele. 

“Mae’r dre yn ‘buzzio’ fel maen nhw’n deud wrth sôn amdano fo oherwydd, ddoe hefyd ddaru ni glywed bod nhw’n cymryd opsiwn arno fo blwyddyn nesa hefyd,” dywedodd wrth raglen Newyddion S4C. 

“’Sa hynny’n beth braf i’r dre ac i’r gymuned ac i Gymru chi’mod a bod o’n dod yma.

“Oherwydd bod o wedi bod llynedd ac yn dod eleni, mae’r twrsitiaeth wedi ehangu’r dre chi’mod”.

Mae Ymddiriedolaeth y Castell wedi agor siop thema ‘I’m a Celebrity’ gyda’r nod o godi arian i warchod y castell yn y dyfodol. 

Image
Newyddion S4C
Mae Castell Gwrych wedi cau ei ddrysau am y tro er mwyn galluogi i gynhyrchwyr y rhaglen i baratoi am y gyfres newydd.

Yn ôl un o wirfoddolwyr Castell Gwrych, mae diogelu’r castell yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

“Wel, er mwyn i ni cael y castell i weithio’n iawn, o’dd raid sicrhau fod y waliau i gyd yn saff er mwyn i’r ffilmio mynd ymlaen,” dywedodd Rhun Williams.

“O’n ‘na ryw faint o craciau yn y waliau, so o’dd raid achub hwnnw yn gynta’, er mwyn cario ymlaen.”

Bydd rhaid aros tan y Nadolig cyn gwybod enillydd y gyfres eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.