Carcharu dyn o Fôn wedi iddo boeri i lygad plismon
Mae dyn 40 oed o Fôn a boerodd i lygad plismon wedi cael ei garcharu.
Fe wnaeth Stephen Lewis Vickery, o Bentraeth, ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener.
Fe wnaeth gyfaddef i ddau gyhuddiad o ymosod ar weithiwr o'r gwasanaethau brys.
Ar 23 Mai, cafodd Vickery ei arestio am ei fod i gael ei alw'n ôl i'r carchar.
Ond wrth iddo gael ei roi mewn gefynnau, dechreuodd ymddwyn yn dreisgar tuag at swyddogion, gan eu cicio a'u dyrnu.
Parhaodd Vickery i wrthod cael ei arestio, cyn poeri i lygad swyddog heddlu.
Cafodd ei garcharu am flwyddyn.
Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd yr Arolygydd Ardal Wayne Francis o Heddlu'r Gogledd: “Er y gallai canlyniad y llys heddiw gynnig rhywfaint o deimlad o gyfiawnder i’m cydweithwyr, mae’n amlwg y bydd canlyniadau a phryder digwyddiad o’r fath yn cael effaith hirdymor ar fywydau’r swyddogion; yn bersonol ac yn broffesiynol.
“Mae’r swyddogion bellach yn cael asesiadau meddygol i benderfynu a ydynt wedi dioddef unrhyw ganlyniadau iechyd o’r digwyddiad.
“Fel Arolygydd Ardal, ni fyddaf yn goddef ymosodiadau yn erbyn ein swyddogion, sy’n rhoi eu hunain mewn perygl yn ddewr bob dydd; mae hon yn farn sy'n cael ei rhannu gan ein huwch arweinwyr o fewn Heddlu Gogledd Cymru.
“Mae’r swyddogion dan sylw yn cael eu cefnogi gan y sefydliad a Ffederasiwn yr Heddlu.”