Newyddion S4C

Llofrudd Sarah Everard wedi gweithio fel heddwas yn San Steffan

The Independent 03/10/2021
Wayne Couzens

Mae Heddlu'r Met wedi cadarnhau fod y cyn-heddwas oedd yn euog o lofruddio Sarah Everard wedi bod ar ddyletswydd yn Nhŷ'r Cyffredin yn y gorffenol.

Dywedodd Scotland Yard fod Wayne Couzens wedi ei leoli yno ar ddyletswyddau amddiffyn arfog bum gwaith rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf y llynedd. 

Yn ôl The Independent, roedd Heddlu'r Met wedi gwrthod manylu ar union leoliad gwaith Couzens yn San Steffan, ond daeth cadarnhad yn dilyn ymholiad gan Syr Lindsay Hoyle, Siaradwr Tŷ'r Cyffredin.

Dywedodd y llu mai prif gyfrifoldeb Couzens oedd bod ar batrôl mewn adeiladau diplomyddol, yn enwedig llysgenadaethau.

Mae'r newyddion wedi gwylltio gwleidyddion, gan gynnwys yr AS Llafur, Rosie Duffield, a ddywedodd: "Mae'n ddychrynllyd bod rhywun a oedd wedi cael ei adnabod fel "y treisiwr" wedi bod yn gwarchod ASau mewn rhywle sydd fod i gael ei warchod".

Yn y cyfamser, mae Mr Hoyle wedi gofyn i'r Met am "gyfarfod ar brys" i drafod sut y cafodd Couzens ei farnu'n addas i weithio'n San Steffan. 

Darllenwch y stori'n llawn yma. 

Llun: Heddlu'r Met

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.