Rhagolwg gemau rhanbarthau Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig

Am benwythnos agoriadol i’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig!
Drama, ceisiau, timoedd newydd – ond yn bwysicach oll – y cefnogwyr yn ôl ym mhob stadiwm.
Roedd o’n benwythnos cymysg i ranbarthau Cymru gyda digon o bynciau i’w trafod wrth i’r timoedd baratoi ar gyfer rownd dau'r penwythnos yma.
Dydd Sadwrn 2 Hydref
Gweilch v Caerdydd – CG 17.15 (I’w gweld nos Sadwrn am 21.45 ar S4C)
Bydd y ddau dîm oedd yn fuddugol yn rownd un yn mynd benben â’i gilydd yn Stadiwm Swansea.com nos Sadwrn.
I’r Gweilch, dyma’r ail gêm ddarbi yn olynol ar ôl eu buddugoliaeth dros y Dreigiau benwythnos diwethaf. Er yr her aruthrol yn yr hanner gyntaf, daeth yr Ospreyliaid drwodd yn gryf i sicrhau’r pwyntiau hollbwysig. Byddai gweld Gareth Anscombe yn dychwelyd i’r maes a rhoi perfformiad safonol yn y crys rhif 10 yn siŵr o godi gobeithion y cefnogwyr, yn ogystal â dau gais y canolwr newydd Michael Collins. Bydd gan y ddau ran mawr i chwarae eto'r penwythnos yma yn erbyn y Gleision, ac ar gyfer gweddill y tymor, os am i’r Gweilch wthio am safleoedd uchaf yr URC.
Roedd gêm agoriadol Caerdydd yn un gofiadwy i’r cefnogwyr ym Mharc yr Arfau. Gyda’r maswr Rhys Priestland a Jarrod Evans yn cael eu gorfodi i adael y cae o fewn yr 20 munud cyntaf oherwydd anafiadau, roedd gan Gaerdydd fynydd i’w ddringo i orchfygu tîm peryglus Connacht. Ond gyda Lloyd Williams yn symud i’r safle rhif 10 a Tomos Williams yn chwarae fel mewnwr, fe ddangosodd Caerdydd bod ganddyn nhw ddigon o chwaraewyr sy’n barod i dorchi eu llewys dan amgylchiadau anodd, wrth iddyn nhw chwythu’r Gwyddelod i ffwrdd yn yr ail hanner.
Wrth ystyried perfformiadau’r ddau dîm penwythnos diwethaf, mae gan y gêm yn Abertawe popeth sydd angen ar gyfer clasur. Bydd y Gweilch yn ceisio rheoli’r gêm gyda chicio tactegol, ond os ydyn nhw am ennill, bydd rhaid iddyn nhw ffeindio ffordd o rwystro Caerdydd i chwarae eu gêm dadlwytho beryglus.
Dydd Sul 3 Hydref
Dreigiau v Leinster – CG 14.00 (Yn Fyw ar S4C)
Roedd y Dreigiau yn edrych yn fygythiol iawn ar adegau yn erbyn y Gweilch wythnos diwethaf, gan adeiladu mantais o 16 pwynt i 10 yn yr hanner cyntaf. Ond ni lwyddodd Gwŷr Gwent i ychwanegu unrhyw bwyntiau bellach tan y 77fed munud, wrth i’r ymwelwyr reoli’r ail hanner a chipio’r fuddugoliaeth. Felly bydd digon i’r Dreigiau weithio arno wrth iddyn nhw groesawu’r pencampwyr, Leinster, i Rodney Parade ar brynhawn dydd Sul, mewn gêm fydd i’w gweld yn fyw ar S4C.
Roedd cryfder nodweddiadol Leinster i’w gweld yn blaen yn eu gêm agoriadol yn erbyn y Vodacom Bulls, wrth iddyn nhw ennill yn gyfforddus o 31 pwynt i dri. Bydd rhaid i’r Dreigiau fod yn amyneddgar wrth amddiffyn a chymryd ei cyfleodd wrth ymosod pan maen nhw’n codi. Y tro diwethaf i Leinster ddod i Gasnewydd, roedden nhw’n ffodus iawn i adael gyda buddugoliaeth 35-29, ar ôl brwydr galed am 80 munud. Os all y Dreigiau ddangos yr un ysbryd a gweithredu eu tactegau yn gywir, fe allai hon fod yn brynhawn heriol arall i’r Gwyddelod.