Newyddion S4C

Aelodau'r fyddin i yrru tanceri i orsafoedd petrol o ddydd Llun

Sky News 02/10/2021
S4C

Fe fydd aelodau'r fyddin cludo petrol i orsafoedd mewn rhai ardaloedd o'r DU o ddydd Llun ymlaen.

Yn ôl Sky News, fe fydd oddeutu 200 o filwyr yn derbyn hyfforddiant ar sut i lenwi tanceri, a 100 ohonynt yn derbyn hyfforddiant gyrru tanceri.

Daw'r penderfyniad ar ôl i weinidogion bryderu fod yr argyfwng tanwydd yn dod i ben yn rhy araf, wrth i bobl barhau i giwio am betrol. 

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace: "Dros y penwythnos, fe fydd 200 o filwyr yn cael eu hyfforddi fel rhan o Weithred Escalin. 

"Er fod y sefyllfa yn un sefydlog, bydd ein lluoedd arfog yno i lenwi gorsafoedd sydd wir angen tanwydd a helpu i gadw'r wlad i symud drwy helpu'r diwydiant i ddosbarthu tanwydd."

Yn ogystal, mae gweinidog o Swyddfa'r Cabinet, Steve Barclay, sydd yn gyfrifol am geisio datrys yr argyfwng ar ran Llywodraeth San Steffan wedi gorchymyn pobl i beidio a rhuthro i brynu petrol. 

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.