Newyddion S4C

Posibilrwydd o atomfa newydd ym Môn medd Boris Johnson

Newyddion S4C 02/10/2021

Posibilrwydd o atomfa newydd ym Môn medd Boris Johnson

Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud y bod hi dal yn bosib y bydd atomfa newydd yn cael ei chodi ym Môn.

Yn ôl Boris Johnson, mae angen i niwclear fod yn rhan o gynlluniau ynni'r DU i’r dyfodol, gyda Wylfa dal i fod o dan ystyriaeth.

Dywedodd Mr Johnson: “Ynni, rhan mor fawr o wariant pobl.

"Gallwn ei ddal i lawr os gwnawn y buddsoddiadau tymor hir mawr y mae'n rhaid i ni eu gwneud nawr wrth gynhyrchu pŵer glân.

“Felly, p'un a yw hynny'n wynt, lle rydyn ni'n mynd hyd at 40 GW erbyn 2030, fe allwn ni wneud hynny neu niwclear.

"Ac, a bod yn onest, mae llywodraethau yn y wlad hon wedi gwrthod gwneud y penderfyniadau anodd ar niwclear am gyfnod rhy hir. Mae angen i ni fwrw ymlaen â mwy o ynni niwclear... Dyna pam rydyn ni'n edrych ar Wylfa a llawer o brosiectau eraill."

Angen buddsoddi ‘degau o filiynau’

Fe gafodd datblygiad Wylfa Newydd ei drafod yn rhan o’r Pwyllgor Materion Cymreig yn gynharach yn fis Medi.

Fe glywodd y pwyllgor y diweddaraf am ddatblygiad y safle niwclear newydd ar Ynys Môn, yn dilyn methiant cynllun Horizon, gydag Aelodau Seneddol yn archwilio’r gefnogaeth fyddai’r sector ei angen i ddatblygu gorsafoedd niwclear newydd, a’r tebygolrwydd o gael gorsaf Wylfa Newydd.

Yn ystod y cyfarfod hwnnw ar ddydd Iau, 23 Medi, fe ddywedodd cyfarwyddwyr cwmni sy’n gobeithio bod yn rhan o’r prosiect ar safle eu bod yn gofyn am fuddsoddiad “cymedrol” i symud y prosiect yn ei flaen.

Yn ôl cwmni Westinghouse UK, degau o filiynau, nid cannoedd, fyddai angen i’r llywodraeth fuddsoddi yn rhan o’u cynlluniau i ddatblygu ar y safle.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.