Newyddion S4C

‘Mae’n teimlo fel cyfnod anniogel i fod yn fenyw mewn dinas’

ITV Cymru 02/10/2021

‘Mae’n teimlo fel cyfnod anniogel i fod yn fenyw mewn dinas’

Mae menywod ifanc ar draws Caerdydd yn dweud nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel wrth gerdded o amgylch y brifddinas.

Dros y chwe mis diwethaf mae straeon am ymosodiadau ar fenywod wedi hawlio’r  penawdau, gan gynnwys llofruddiaeth Sarah Everard ac yn fwy diweddar llofruddiaeth Sabina Nessa.

Mae ymgyrchwyr eisiau gweld Caerdydd yn dod y ddinas gyntaf yng Nghymru i lansio Siarter Diogelwch Menywod.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod am “roi terfyn” ar drais yn erbyn menywod.

Ym mis Medi, fe ddioddefodd merch 16 mlwydd oed ymosodiad rhyw difrifol y tu allan i gampws Prifysgol De Cymru yng Nghaerdydd.

Image
Tirion Davies
Mae Tirion wedi cael profiadau uniongyrchol o aflonyddu yng Nghaerdydd.

Dywedodd Tirion Davies,  myfyrwraig ym Mhrifysgol Caerydd: “Mae’r erchyllterau da ni’n ei weld yn digwydd i fenywod yn gwneud iddi deimlo fel cyfnod anniogel i fod yn fenyw ifanc yn y ddinas fawr”.

Yn ystod wythnos y glas mae grŵp o wirfoddolwyr gyda chymorth yr heddlu, wedi trefnu bws diogelwch i helpu menywod deimlo'n ddiogel.  

“Dros y tair blynedd diwethaf yma yng Nghaerdydd, dwi wedi delio gyda phrofiadau o gael fy nilyn, ac felly dwi’n ddiolchgar bod yr heddlu yn barod i helpu menywod i deimlo'n fwy diogel.

“Mae’r system o oleuo’r strydoedd a chwmnïoedd yn agor eu drysau i fenywod os oes angen cymorth yn wych, ac am y tro cyntaf yn y drafodaeth am ddiogelwch, mae’n teimlo fel bod ymdrechion ymarferol yn cael eu cynnal i sicrhau diogelwch menywod,” dywedodd Tirion.

“Ond amser a ddengys os fydd yr ymdrechion a’r prosesau yma’n gweithio, gan ein bod wedi gweld prosesau’n methu yn y gorffennol.”

Ar ddechrau’r tymor newydd, mae cwmni For Cardiff wedi creu dros 30 hysbysfwrdd i oleuo’r strydoedd o amgylch Caerydd i helpu menwyod deimlo’n fwy diogel.

Maen nhw hefyd yn cynnig côd QR sy’n cyfeirio rywun at restr o fannau diogel lle gall y rhai sy’n teimlo’n ofnus dderbyn cymorth.

Image
carolyn brownell
Mae Carolyn yn hyderus bod modd gwella'r sefyllfa diogelwch i fenywod yng Nghaerdydd.  (Llun: ITV Cymru).

Dywedodd Carolyn Brownell o For Cardiff: “Fel menyw, rwy'n teimlo'n angerddol iawn yn bersonol am hyn. Rydw i wedi dioddef o ymosodiadau rhyw sawl gwaith, yn enwedig ar noson allan. Dwi erioed wedi ei reportio.

“Rwy'n credu, os oes unrhyw ran, ac mae'n amlwg dim ond rhan fach y gallwn ei chwarae i helpu i wneud i ferched deimlo'n fwy diogel yng Nghaerdydd, yna mae angen i ni wneud hynny.  Ond yn y pen draw heb fuddsoddiadau dilys a bod hyn yn cael ei gymryd yn ddifrifol fel y mae angen iddo fod gan yr heddlu, a’r llywodraeth, mae'n mynd i barhau i ddigwydd.

“Rydyn ni eisiau bod y ddinas gyntaf yng Nghymru i lansio Siarter Diogelwch Menywod, a fydd yn gofyn i fusnesau ymrwymo i set o reolau a rhwymedigaethau ar gyfer diogelwch menywod wrth symud ymlaen a byddwn ni’n lansio hynny yn y flwyddyn newydd.”

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo eu llinell gymorth 24/7 Byw Heb Ofn ar gyfer holl ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r rhai sy'n agos atynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr sydd ar gael dros y ffôn, neges destun, e-bost a sgwrs fyw.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni am roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Rydyn ni’n cryfhau ein Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal ag yn y cartref, fel rhan o’n gwaith parhaus i sicrhau mai Cymru fydd y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw. 

“Fe fyddwn ni’n parhau i weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol i godi ymwybyddiaeth o’r problemau y mae menywod a merched yn eu hwynebu o ran anghydraddoldeb a diogelwch, ac â heddluoedd, comisiynwyr heddlu a throseddu, byrddau diogelwch cyhoeddus a Gwasanaeth Erlyn y Goron, fel bod pobl yn teimlo’n hyderus i roi gwybod am gamdrinwyr a’r rheini sy’n cyflawni trais a’u dal i gyfrif.”

Image
anest williams
Gyda’r newyddion yn trafod amrywiaeth o ymosodiadau yng Nghaerdydd mae Anest yn teimlo fod popeth yn “fwy real, fel bod e ar stepen eich drws”.

Mae Anest Williams, myfyrwraig sydd yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn teimlo bod rhaid ymestyn ymgyrch For Cardiff heibio cyfnod y glas i helpu tawelu meddyliau menywod Caerdydd.

Dywedodd Anest: ”Pan welais i'r newyddion cyn symud i Gaerdydd bod yr ymgyrch yma yn digwydd dros freshers, roedd hynny’n gwneud i fi deimlo’n fwy cyfforddus bod chi gallu mynd i lefydd a bod nhw’n trefnu bod chi yn ddiogel.

“Ond, mae fe dim ond am bythefnos, felly pam nad yw e dros y flwyddyn i gyd?

“Efallai bod ymgyrch For Cardiff yn rhoi mwy o dawelwch i feddyliau menywod, ond nad yw e’n gwneud unrhyw beth i atal y broblem. Rili, y broblem yw pobl yn trio ffeindio datrysiad i ddiogelwch menywod trwy wneud iddyn nhw deimlo yn fwy diogel, ond ddim atal y broblem sef yr ymosodiadau a’r aflonyddiaeth,” dywedodd Anest.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.