Dyn 34 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam

01/10/2021
Llun o gar heddlu.

Mae’r heddlu’n apelio ar ôl i ddyn farw mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam ddydd Iau.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r gwrthdrawiad un cerbyd ar y B5102 Ffordd yr Orsedd rhwng yr Orsedd a Holt ychydig wedi 20:20.

Bu farw James Edward Clutton, 34 oed, yn y fan a’r lle, gyda’r heddlu yn cydymdeimlo gyda’i deulu mewn datganiad ddydd Gwener.

Dywedodd Stephen Richard o Undeb Plismona Ffyrdd Heddlu’r Gogledd:  “Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Rossett, ger Parkside, ryw bryd rhwng 20:00 a 20:30 neithiwr.

“Rwy’n apelio ar unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal a welodd y gwrthdrawiad neu a allai fod ag lluniau dashfwrdd, i gysylltu gyda’r heddlu cyn gynted â phosib.”

Ychwanegodd y dylai unrhyw un sydd gan wybodaeth gysylltu gan ddefnyddio’r cyfeirnod 21000680901.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.