Cyhoeddi Prif Weithredwr newydd y GIG yng Nghymru

Mae Prif Weithredwr newydd y GIG yng Nghymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei gyhoeddi.
Bydd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ymgymryd â'i rôl newydd ar 1 Tachwedd.
Bydd yn olynu Dr Andrew Goodall, sy'n symud i rôl newydd fel Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Rwy’n falch iawn y bydd Judith yn ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr gan ddarparu cyfoeth o brofiad ar adeg dyngedfennol i wasanaethau iechyd a chymdeithasol yng Nghymru.
“Bydd Judith yn darparu sicrwydd ac arweinyddiaeth wrth i ni barhau i gwrdd â heriau’r pandemig."
Bydd Ms Paget yn y rôl am 18 mis a bydd proses benodi sylweddol i'w chynnal yn ystod yr amser hwnnw.
Mae Dr Goodall hefyd wedi croesawu ei olynydd:
“Mae hi’n dod â chyfoeth o wybodaeth, profiad a mewnwelediad a fydd yn ei helpu i gynghori Gweinidogion Llywodraeth Cymru a darparu arweinyddiaeth wrth i ni barhau i lywio’r pandemig ac ailosod ac adfer y system ar gyfer y dyfodol.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Twitter/@BIPAneurinBevan