
Profiad ‘anodd’ diplomydd o Gymru yn Affganistan

Profiad ‘anodd’ diplomydd o Gymru yn Affganistan
Mae diplomydd o Gymru wedi siarad am ei brofiad o fod yn rhan o’r gwaith o achub miloedd o bobl gyffredin ar ôl i’r Taliban gipio grym yn Affganistan.
Fe wnaeth Rhys Annett, ynghyd â 10 diplomydd arall hedfan i Kabul ym mis Awst.
Yn ôl Mr Annett, roedd yn brofiad "byth gofiadwy".
"O'dd mam ifanc gydag efeilliaid oedd yn fabanod ac odd y tad yn barod wedi cael ei lladd gan aelod o'r Taliban," dywedodd wrth raglen Newyddion S4C.
"Ac odd hi'n gorfod bod yn y ciw ar ben ei hun gyda'r ddau blentyn ifanc iawn. Ac odd hi'n gorfod rhoi un ohonyn nhw i ddyn dieithr, neu berson dieithr oherwydd odd ganddi ddim digon o ddwylo i gario popeth.
"A pan nath hi gyrraedd ata i nes i ddala'r baban, a nes i lwyddo helpu hi a'r plant i fynd ar awyren. Ond odd hi'n un o gannoedd o deuluoedd lle odd o leiaf un aelod o'r teulu wedi marw o ganlyniad o'r Taliban neu, oherwydd y trais dros yr 20 mlynedd ddiwetha'."
Ychwanegodd y diplomydd fod y profiad yn un "galed" ond "gwerth chweil".
"Odd y dewisiadau o'n i a fy nghydweithwyr yn neud bod dydd i helpu pobl, odd e'n teimlo fel o ni wir yn neud gwahaniaeth," eglurodd.
"Pa mor anodd gwneud y penderfyniadau 'na, a dweud wrth bobl nad oedd modd iddyn nhw adael?
"Hwnna odd un o'r pethau mwyaf caled, bendant i neud."

Yn ystod ei amser yn Affganistan, fe lwyddodd Rhys a diplomyddion y Swyddfa Dramor helpu tua 15,000 o bobl i adael Affganistan.
"Ni methu achub 38,000,000 o bobl. Ond diolch byth odd dim angen dweud na gormod," meddai.
"O'dd mwyafrif helaeth o'r rhai odd yn dod atom ni, o'n nhw'n gallu gadael.
"Ma' fe wir yn sefyllfa dorcalonnus. Ac o siarad gyda'r holl deuluoedd yna, pobl sydd dim ond moen gwlad ddiogel lle maen nhw'n gallu gweithio'n galed a chael bywydau da, ac mae fe wir yn llanast.
"A fi'n meddwl beth sy'n galed iawn hefyd yw sut mae pobl nawr yn cael eu trin, yn enwedig y menywod a'r merched.
"Ni 'di gweld ar y newyddion er enghraifft, sut mae merched yn eu harddegau methu mynd i'r ysgol bellach.
"Felly mae gweld pethau fel 'na, nid fel diplomydd ond fel person, wir yn anodd gweld."