Rheolaeth tad Britney Spears dros fywyd ei ferch wedi ‘ei ohirio’

Mae barnwr wedi dweud bod rheolaeth tad y gantores Britney Spears dros fywyd ei ferch wedi “ei ohirio”.
Mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys yn Los Angeles, dywedodd y barnwr “na fyddai modd cynnal” rheolaeth Jamie Spears, 69 dros ei ferch 39 oed.
Yn ôl The Mirror, clywodd y llys bod rheolaeth parhaus Mr Spears dros fywyd ei ferch yn “wenwynig”.
Mae Jamie Spears wedi ei feirniadu'n llym dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil y trefniant, sydd wedi bod yn ei le ers 2008 ar ôl i'w ferch fynd drwy gyfnod o ansefydlogrwydd.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: rhysadams (drwy Flickr)