Newyddion S4C

'Dim tystiolaeth' i achos marwolaeth peilot mewn gwrthdrawiad awyren

North Wales Live 29/09/2021
Yr Athro James David Last
Heddlu Gogledd Cymru

Ni fydd achos gwrthdrawiad awyren a wnaeth arwain at farwolaeth yr Athro James David Last "byth yn glir". 

Yn ôl North Wales Live, roedd yr academydd o Lanfairfechan oedd yn beilot profiadol yn hedfan awyren fechan, Cessna 172 Skyhawk, pan aeth ar goll yn y môr ger Penmon ar Ynys Môn yn mis Tachwedd 2019. 

Daeth deifwyr o hyd i gorff Mr Last ger Ynys Seiriol 17 diwrnod ar ôl iddo fynd ar goll. 

Mewn cwest yng Nghaernarfon ddydd Mercher, doedd dim tystiolaeth feddygol na peirianyddol yn gallu egluro achos i'w farwolaeth. 

Clywodd y cwest fod yr Athro wedi marw o anaf i'w ben a'i frest. 

Darllenwch y stori'n llawn

Llun: Heddlu Gogledd Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.