Plaid Cymru’n gohirio ei chynhadledd oherwydd achosion Covid-19
Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau na fydd cynhadledd y blaid yn mynd yn ei blaen yn yr hydref oherwydd cyfraddau uchel o Covid-19.
Roedd y gynhadledd i fod i gael ei chynnal yn Aberystwyth ar Hydref 15-16.
Mae’r Llafur Cymru eisoes wedi canslo ei chynhadledd oherwydd ei bod yn disgwyl “brig mewn achosion” o coronafeirws ym mis Tachwedd, gan ddweud eu bod nhw’n cymryd “camau ymarferol i gyfyngu ar y lledaeniad”.
Dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones bod cynnal y gynhadledd ddim yn “ddoeth”.
“Gwn y byddwch yn rhannu ein siom na fyddwn yn cyfarfod wyneb i wyneb i drafod syniadau ac adeiladu tuag at yr etholiadau lleol y flwyddyn nesaf.
“Mae Plaid Cymru bob amser yn rhoi diogelwch ein haelodau, rhanddeiliaid a'n cymunedau yn gyntaf.
“Mae'n hanfodol ein bod ni'n chwarae ein rhan i gadw pawb yn ddiogel."