Newyddion S4C

Keir Starmer yn anwybyddu heclwyr yng nghynhadledd y blaid Lafur 

Sky News 29/09/2021
CC
NS4C

Bu’n rhaid i Syr Keir Starmer ddadlau gyda sylwadau heclwyr wrth iddo draddodi ei araith yng nghynhadledd y blaid Lafur ddydd Mercher. 

Yn ei gynhadledd gyntaf fel arweinydd y blaid, fe wnaeth Syr Keir drafod ei fagwraeth a salwch ei fam.

Mae'n arweinydd sydd wedi'i gyhuddo yn y gorffennol o fethu â dangos emosiwn, felly roedd yn ymddangos fel petai’n bwysig iddo allu cysylltu ag aelodau ar lefel bersonol, medd Sky News. 

Roedd yn feirniadol o’r Prif Weinidog Boris Johnson yn ei araith, gan bwysleisio’r gwahaniaethau rhwng y ddau ohonynt. 

Dywedodd y byddai’n rhoi blaenoriaeth i achosion o dreisio ac ymosodiadau rhyw difrifol, yn ogystal ag ariannu’r GIG “yn gywir”. 

Er iddo gael ei heclo gan rai yn y gynulleidfa, nid oedd modd clywed rhai o’r sylwadau wrth i’r gynulleidfa sefyll i gymeradwyo Mr Starmer. 

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.