Newyddion S4C

Aelwyd Llangwm yn dathlu 80 mlynedd er gwaethaf heriau'r pandemig

29/09/2021

Aelwyd Llangwm yn dathlu 80 mlynedd er gwaethaf heriau'r pandemig

Mae un o aelwydydd hynaf Cymru yn cyrraedd carreg filltir bwysig yr wythnos hon, er gwaethaf heriau'r pandemig. 

Wedi ei sefydlu yn anterth yr ail ryfel byd nôl ym 1941, dyw dyddiau digynsail ddim yn rhywbeth anghyfarwydd i Aelwyd Llangwm yn sir Conwy.

Er bod y pandemig wedi dangos ei ôl yr aelwyd – dim nosweithiau yn y neuadd leol, dim ymarferion côr, dim 'cyfarfod dros beint' am 18 mis a mwy - mae aelodau Aelwyd Llangwm yn teimlo’n “ffodus” i gael ymuno unwaith eto i nodi’r achlysur arbennig.

Fe fydd yr aelwyd yn cynnal digwyddiad ddydd Sadwrn, 2 Hydref i ddathlu 80 mlynedd o fodolaeth.

Image
Aelwyd Llangwm
Aelwyd Llangwm yn dathlu yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r fro, 2019.

Mae cyrraedd y garreg filltir enfawr hon yn gamp, yn ôl un aelod.

“Mae’n golygu gymaint i ni fel aelwyd. Yn amlwg, mae’r aelwyd wedi gwasanaethu ardal Llangwm a’r cyffiniau am gyfnod o 80 mlynedd, mae hynny yn anhygoel yn ei hun,” dywedodd Siwan Elenid Jones.

“Da ni’n andros o ffodus yma yn Llangwm fod yr aelwyd yn rheswm i’n ieuenctid ni ddod yma i gyfarfod a sefydlu cymdeithas glos ohonom ni mewn ffordd, ac yn amlwg, mae’n cynnal y Gymraeg yn yr ardal.”

Image
Cofnodion yr aelwyd
Cofnodion o gyfarfod yr aelwyd ym mis Tachwedd 1953.

A hithau yn un o gonglfeini'r traddodiad amaethyddol Cymreig, mae dirywiad cefn gwlad wedi cael effaith amlwg ar yr aelwyd hon ym mhentref Llangwm.

Fe gafodd yr ysgol gynradd leol ei chau yn Llangwm yn 2014, ac ers hynny mae pryder bod y fro wedi colli rhan fawr ohoni.

Dywedodd Siwan: “Mae colli’r ysgol yn amlwg wedi bod yn ergyd i’r gymuned, achos yn amlwg, yr ysgol oedd calon y gymuned mewn ffordd, oedd popeth yn digwydd rownd yr ysgol, a’r capeli mewn ffordd.

“De ni’n teimlo fatha bod o’n gyfrifoldeb arna ni i sicrhau bod stwff yn digwydd yn y gymuned, a bo ni’n falch o’n cymuned a bo ni’n gwasanaethu drwy gynnal digwyddiadau cymdeithasol a rhoi cyfle i bawb ddod ynghyd.”

Image
Ysgol Llangwm
Fe gaeodd drysau Ysgol Llangwm am y tro olaf yn 2014.

Ychwanegodd arweinydd Côr Aelwyd Llangwm, Meinir Lynch, bod adran yr Urdd y pentref, Adran Llangwm, hefyd wedi ei cholli yn sgil cau’r ysgol.

“De ni wedi colli’r ysgol, mae adran yr urdd hefyd wedi diflannu yn sgil hynny, a’r peryg ydi rŵan ydi nad oes ‘na ddim plant yn mynd i gael eu hadnabod fel ‘plant Llangwm’, fel oedd yn yr hen ddyddiau.

“Ond mae’r aelwyd yn dal i gadw hynny gobeithio i fynd, a pwy a ŵyr, ryw ddiwrnod wrach allwn ni ail ddechrau’r adran yma hefyd.”

Image
Aelwyd Llangwm
Rhai o'r atgofion fydd yn rhan o arddangosfa'r aelwyd i ddathlu 80 mlynedd.

‘Yma am 80 mlynedd arall’

Er bod Covid-19 wedi effeithio ar bob agwedd o’r gymdeithas yn Llangwm, mae’r aelwyd yn ffyddiog y bydd dyfodol tu hwnt i’r cyfnod hwn.

Dywedodd Mrs Lynch: “O’n i’n ymaelodi ynghanol y 70au, a de ni wedi cael cyfnodau o lawnder, cyfnodau llwm lle mae rhywun wedi mynd yn ddigalon a meddwl bod ‘na ddim dyfodol falle.

“Ond, de ni rywsut yn llwyddo i ddod drwyddi. Amser a ddengys, ond dwi reit sicr y daw hi drwyddi.”

Yr un mor ffyddiog hefyd mae’r aelodau.

Ychwanegodd Siwan: “Doedd ‘ne ddim amau bod yr aelwyd yn mynd i gario mlaen. De ni yma am 80 mlynedd a mi fyddwn ni yma am 80 mlynedd arall.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.