CPD Cei Connah yn derbyn ymddiswyddiad eu rheolwr Andy Morrison
29/09/2021
Mae Clwb Pêl-droed Cei Connah wedi cadarnhau bod eu rheolwr Andy Morrison wedi ymddiswyddo.
Cafodd ei benodi fis Tachwedd 2015 pan oedd y tîm ar waelod yr hen Uwch Gynghrair Cymru.
O dan arweiniad Morisson, enillodd y tîm y JD Cymru Premier ddau dymor yn olynol yn 2020 a 2021, ac fe gafodd Morrison ei enwi’n Rheolwr y Flwyddyn y ddau dro.
Dywedodd y clwb eu bod nhw’n “gyndyn” o dderbyn ei ymddiswyddiad, ond yn diolch i Morrison am “rai o’r eiliadau gorau yn hanes y clwb”.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans