Fideo'n ymddangos o lori'n troi ar ei hochr ar yr A55 ddydd Llun
Fideo'n ymddangos o lori'n troi ar ei hochr ar yr A55 ddydd Llun
Mae fideo ddramatig wedi ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol sydd yn dangos gwrthdrawiad ar ffordd yr A55 ar Ynys Môn ddydd Llun.
Trodd lori dancer ar ei hochr ar ôl croesi drwy'r bariau diogelwch yng nghanol y ffordd, ond ni chafodd neb eu hanafu'n ddifrifol.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion yn dilyn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd i gyfeiriad y dwyrain ar ôl cyffordd 6 ger Llangefni.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru yn dilyn y digwyddiad fod tancer Volvo gwyn nad oedd yn cario tanwydd wedi troi drosodd a bod y gyrwr wedi ei gludo i Ysbyty Gwynedd ar ôl dioddef mân anafiadau.
Dywedodd Sarjant Jason Diamond o'r llu mewn datganiad: “Rydym yn apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal neu a allai fod wedi bod yn dyst i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 15:40 i gysylltu â ni."
Roedd y ffordd ar gau am gryn amser tra roedd y gwasanaethau brys yn adfer y cerbyd.
Gofynnir i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau cam dash a allai gynorthwyo'r ymchwiliad gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod Z142803.