Marwolaeth Sabina Nessa: Cyhuddo dyn o lofruddio

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Sabina Nessa, a gafodd ei darganfod yn farw mewn parc yn ne ddwyrain Lloegr ar 18 Medi.
Mae Koci Selamaj, 36 oed, wedi ei gyhuddo o lofruddio Ms Nessa, 28 oed.
Fe gafodd Selamaj ei arestio am 03:00 fore dydd Sul yn Nwyrain Sussex, ble roedd yn byw.
Mae wedi ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Willesden ddydd Mawrth, yn ôl Evening Standard.
Darllenwch y stori'n llawn yma.