Teyrngedau i seiclwr fu farw mewn damwain yn Eryri
Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad gyda bws yn Eryri dros y penwythnos wedi rhoi teyrnged i dad a thaid “balch”.
Roedd Andy Fowell, 66 oed, yn gyn ymgynghorydd diwedd oes yn Ysbyty Gwynedd ac yn byw ger Biwmares ar Ynys Môn.
Bu farw mewn gwrthdrawiad gyda bws ar yr A4806 rhwng Pen y Pass a Nant Peris ychydig wedi 11:30 ddydd Sadwrn.
Dywedodd ei deulu: “Roedd Andy Fowell yn gyn Ymgynghorydd diwedd oes yn Ysbyty Gwynedd, ac yntau wedi symud i Fôn yn 1997 i ymgymryd â’r rôl a sefydlu’r Gwasanaeth Diwedd Oes yng ngogledd Cymru.
“Roedd yn briod ag Anne am 43 o flynyddoedd, ac mae ganddynt ddau o blant, Rachel a Richard.
“Roedd yn dad balch i’r ddau ohonynt, ac yn dotio at ei ddau o wyrion, Fraser a Tilly.
“Roedd Andy yn seiclwr angerddol, ac roedd wedi seiclo gyda’i ddau ffrind, Steve a Rodger, o Istanbwl i Ynys Môn, gan godi £25,000 i Hosbis Dewi Sant a’r Gymdeithas Afiechyd Motor Neurone.
“Roedd ei ddiddordebau yn cynnwys dringo mynydd, paragleidio, ac yn fwy diweddar, rhwyfo, rhedeg, golff, hwylio, celf, cerddoriaeth ac roedd yn ddarllenydd brwd.
“Bydd colled enfawr ar ôl Andy, ei ddigrifwch sych a ffraethineb oedd yn diddanu pawb.
“Hoffai’r teulu ddiolch i bawb oedd yn safle’r ddamwain am eu holl gymorth ac i’r gwasanaethau brys.”
Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio’r cyfeirnod 21000668047.
Llun teulu